Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 28 Chwefror 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 14:35 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Gwyn R Price Jenny Rathbone Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) Sarah Beasley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Ystyried y dull o weithio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Plant a Theuluoedd
2.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei ddull o weithio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Plant a Theuluoedd, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth bellach.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol; y llythyrau a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Bil Trawsblannu Dynol (Cymru); y llythyr a gafwyd gan Ddeoniaeth Cymru mewn perthynas â’r camau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr; a’r llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r camau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2012.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5. Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried yr adroddiad terfynol
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr eitem hon mewn sesiwn breifat.
6. Bil Trawsblannu Dynol (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried y prif faterion
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y prif faterion a gododd yn ystod y broses o graffu ar Fil Trawsblannu Dynol (Cymru).